

Dyma ni, unwaith eto, yn dathlu gwyl ein nawddsant yng nghwmni ein gwesteion, y maer a’r faeres, yr Aelod Seneddol Paul Flynn a’i wraig Sam a ffrindiau hen a newydd. Hyfryd dros ben oedd gweld aelodau newydd yn ein mysg yn mwynhau’r cinio a’r croeso. Roedd ein ystafell yn Neuadd y Seiri Rhyddion mor odidog ag erioed. Cerddom i fewn i olygfa ysblennydd – llu o flodau euraidd ein cenedl yn ein croesawu a’n cymell i fwynhau noson gynnes, Gymraeg. Ac felly y bu.
Ar ôl y ciniawa – bwyd rhagorol fel arfer – tro’r gwr gwadd, yr aelod seneddol Paul Flynn, i roi ei araith. Dyma Gymro balch yn ymfalchïo yn ei gymreictod ac yn canmol doethder a chyfiawnder deddfau Hywel Dda o’u cymharu a deddfau dros Glawdd Offa. Siaradodd yn Gymraeg yn huawdl iawn, gan symud i’r Saesneg yn hwylus nawr ac yn y man er mwyn cynnwys y di-Gymraeg. Cafodd gymeradwyaeth gwresog iawn.
Daeth y noson i ben drwy ganu hen ffefrynnau i gyfeiliant Martyn – diweddglo bendigedig i noswaith hyfryd.
Rhaid diolch yn fawr i bawb a gyfrannodd at lwyddiant y noson. I feistr y defodau, Cledwyn, am ein tywys ar hyd y llwybrau cywir a gwneud yn siwr bod pawb yn gwybod beth i’w wneud – a phryd! I Hywel a Brenda a weithiodd yn galed gyda’r trefniadau a’r cysylltiadau gyda Neuadd y Seiri Rhyddion – heb sôn am waith Hywel yn gweini ar aelodau’r ford hir! Roedd gwaith Alwena a Chris yn amlwg i bawb – o’r bwydlenni proffesiynol i’r enwau i bob sedd heb sôn am nodi beth oedd pawb wedi dewis i’w fwyta. Oriau o waith! Diolch i Wynne, ein trysorydd amyneddgar, am gasglu a gofalu am yr arian – swydd beichus. Diolch hefyd i Martyn am fod yn barod, fel arfer, i gyfeilio ar y piano.