Wele’n cychwyn dros tri deg
O Gymry Casnewydd ar noson deg!!
Wel, tri deg chwech i fod yn gywir! Diolch i Brenda a Deilwen am eu trefniadau trylwyr, cawsom noswaith lwyddiannus a chofiadwy – ynglyn â’r cwmni a’r bwyd. Ffordd ddymunol iawn o gwmnïa a chymdeithasu gyda ffrindiau.
Pleser o’r mwya oedd cael croesawu tri aelod newydd at ein plith – Ann a Craig Octon a Julie Payne. Edrychwn ymlaen yn fawr at ddod i’w nabod yn well ac i fwynhau eu cwmni fel â’r flwyddyn yn ei flaen. Croeso cynnes iawn i chi’ch tri.
Pryd mae’r cinio nesa?